SL(5)460 – Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) 2019
Cefndir a Diben
Gwneir yr offeryn hwn wrth arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Mae'r offeryn hwn yn gwneud darpariaethau atodol i'r hyn a wnaed gan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 sy'n diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014.
Mae'r diwygiadau yn yr offeryn hwn yn golygu y gall unigolyn sy'n dymuno gwneud cais am dystysgrif cymhwysedd (sydd ei hangen er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy) ddibynnu ar hyfforddiant ac archwiliad cymeradwy a wneir yng Ngweriniaeth Iwerddon fel tystiolaeth wrth wneud cais i'r awdurdod cymwys yng Nghymru. Mae angen y newid hwn i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn diwallu eu hymrwymiadau o dan Ardal Deithio Gyffredin y DU ac Iwerddon.
Gwneud Cadarnhaol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau technegol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt rhinweddau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Gwnaed y Rheoliadau hyn ar 23 Hydref 2019 ac maent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' frys. Roedd Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn bwysig bod y Rheoliadau hyn ar waith ar frys cyn y diwrnod ymadael er mwyn rhoi hyder a sicrwydd i'r cyhoedd a’r byd busnes, a sicrhau bod y llyfr statud yn gweithredu’n effeithiol ar ôl ymadael â'r UE. Defnyddiwyd y weithdrefn frys yn yr achos hwn oherwydd bod disgwyl mai'r diwrnod gadael fyddai 31 Hydref 2019.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Nodir y goblygiadau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Bydd hyfforddiant ac archwilio cymeradwy a wneir yng Ngweriniaeth Iwerddon yn parhau i gael eu cydnabod gan yr awdurdod cymwys yng Nghymru yn dilyn ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
5 Tachwedd 2019